Disgrifiad

Cwblhawyd yr arolwg a'r prisiad hwn o'r tiroedd ym mhlwyfi Cerrigceinwen, Llangristiolus, Llanddeusant, Llanfflewin, Llanrhuddlad, Aberffro a Cheirchiog, Sir Fôn, gan Thomas Jones, Bryntirion, a William Jones, Nant, ar ran Elusen David Hughes ym 1811. Ar y pryd, roedd y tir ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw