Disgrifiad

Mae'r 'Llyfr Camymddygiad' hwn yn cynnwys manylion am yr achosion o gamymddwyn gan garcharorion yng Ngharchar Biwmares yn y cyfnod rhwng 1847 a 1874. Mae enwau'r troseddwyr yn cael eu nodi, ynghyd â dyddiad y drosedd, natur y drosedd a'r gosb. Un o'r dulliau mwyaf cyffredin o gosbi carcharor a oedd wedi camymddwyn oedd ei roi mewn cell ar ei ben ei hun gan ei orfodi i fyw ar fara a dŵr am gyfnod. Ar dudalen gyntaf y Llyfr Camymddygiad hwn fe welir bod nifer o garcharorion wedi derbyn cosb o'r fath oherwydd iddynt gamfihafio neu dorri rheolau'r carchar.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw