Llythyr a anfonodd John Morris-Jones at ei gariad Mary, Dydd Calan 1892 [tudalen 1 o 4]
Disgrifiadau
Anfonodd John Morris-Jones y llythyr hwn at ei gariad, Mary Hughes, Siglen, Llanfair Pwllgwyngyll, ddydd Calan 1892. Ysgrifennwyd rhan gyntaf y llythyr ar ffurf cyfres o benillion ac mae'r dudalen gyntaf hefyd yn cynnwys braslun dyfrlliw a beintiwyd gan John Morris-Jones ei hun. Mae John yn ddigon parod i fynegi ei deimladau yn ei lythyrau at Mary, ond mae'n amlwg nad yw Mary mor agored yn ei llythyrau hithau. Ar ddiwedd y llythyr hwn gofynna John 'paham nad ydi Mary bach y llythyrau ddim mor rydd, mor "confiding", a'r Fary bach fydd yn eistedd ar fy mynwes ac yn fy mreichiau i? ... Gadewch i mi gael peth o'ch hanes a pheidiwch ag ysgrifennu fel at rywun dierth'. Mae diweddglo hapus i'r stori, fodd bynnag, oherwydd priododd John a Mary ym 1897, a ganed pedwar o blant iddynt.
Ganed John Morris-Jones (1864-1929) yn Llandrygarn, Sir Fn, ond cafodd ei fagu yn Llanfair Pwllgwyngyll. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ffriars, Bangor, a Choleg Crist, Aberhonddu, cyn ennill gradd mewn Mathemateg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym 1883. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, dechreuodd ymddiddori ym maes astudiaethau Cymraeg dan ddylanwad Syr John Rhŷs, a bu'n astudio Celteg yn y coleg am flwyddyn. Ym 1886, ef oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym - cymdeithas myfyrwyr Cymraeg colegau Rhydychen. Ym 1889, cafodd ei benodi yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, cyn cael ei ddyrchafu'n Athro'r Gymraeg chwe blynedd yn ddiweddarach. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1918.
Disgleiriodd John Morris-Jones mewn sawl maes llenyddol: golygodd argraffiad o waith Ellis Wynne, 'Gweledigaethau y Bardd Cwsc' (1896), a chyhoeddodd ddadansoddiad arloesol o'r mesurau caeth yn ei gyfrol 'Cerdd Dafod' (1925). Cofir ef yn bennaf efallai am ei waith fel gramadegydd: yn ogystal 'i ramadeg mawr, 'A Welsh Grammar, Historical and Comparative' (1913), a 'Welsh Syntax' (a gyhoeddwyd ym 1931, wedi ei farwolaeth), cyflawnodd waith arloesol i ddiwygio orgraff yr iaith Gymraeg yn ei gyfrolau 'Welsh Orthography' (1893) ac 'Orgraff yr Iaith Gymraeg' (1928).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment