Y pêl-droediwr Billy Meredith, c. 1909
Disgrifiadau
Ganed Billy Meredith, 'Y Dewin Cymreig', (1874-1958), yn Y Waun, sir Ddinbych, ar 24 Gorffennaf 1874. Roedd yn fab i löwr, a dechreuodd weithio ym Mhwll Black Park fel gyrrwr ceffyl a 'hutcher' pan oedd yn ddeuddeg oed. Erbyn y 1890au roedd ei sgiliau pêl-droed wedi dod i'r amlwg ac fe ymunodd â chlwb cyntaf llwyddiannus Y Waun, gan ennill ei fedal Cwpan Cymru cyntaf ym 1894. Yn dilyn cyfnod byr fel chwaraewr rhannol-broffesiynol yn Wrecsam, ac fel chwaraewr proffesiynol gyda thîm Northwich Victoria yn Ail Adran Lloegr, ymunodd â chlwb Manchester City ym 1894. Eto i gyd, parhaodd i weithio yn y pwll glo tan 1896, pan fynnodd ei glwb ei fod yn rhoi'r gorau i'w swydd.
O 1896 hyd ei ymddeoliad ym 1924, bu Meredith yn chwaraewr pêl-droed proffesiynol amser-llawn, gan chwarae i dimau Manchester City a Manchester United. Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd dros 650 o gemau cynghrair a 53 o gemau cwpan Lloegr, cynrychiolodd ei wlad ar 50 o achlysuron a sgoriodd ymron i 200 o goliau. Yn sgil ei lwyddiannau ar y maes chwarae, datblygodd Meredith yn chwaraewr hynod boblogaidd: ym 1904 cafodd ei enwebu'n chwaraewr y flwyddyn gan ddarllenwyr un papur newydd.
Fodd bynnag, roedd ei weithredoedd oddi ar y cae hefyd yn denu sylw. Ym mis Mawrth 1904 cafodd ei gyhuddo o geisio llwgrwobrwyo un o'i wrthwynebwyr yn ystod gêm gynghrair dyngedfennol. Cafodd ei wahardd o'r gêm am flwyddyn a hanner cyn ailymddangos gyda Manchester United ym 1907. Yn ystod yr un cyfnod, chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymdrechion i ailsefydlu undeb ar gyfer chwaraewyr pêl-droed. Bu'r cyfnod hwn yn un hynod lwyddiannus iddo ar sawl cyfrif: dringodd ei glwb newydd i frig y gynghrair gan ennill cwpan Lloegr, ac ym mis Mawrth 1907 arweiniodd Meredith ei wlad i'w buddugoliaeth gyntaf ym mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment