Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gwnaed y faner sidan hon, sydd wedi ei pheintio, gan George Tutill. Sefydlwyd y gymdeithas ar 1 Medi 1826, a byddai aelodau'r Gymdeithas Gyfeillgar yn talu swllt y mis i'r gronfa. Gallen nhw dalu cyfraniadau ychwanegol i dalu am gostau prydau bwyd. Gallen nhw hefyd gael eu dirwyo o chwe cheiniog am regi, gwisgo'n anweddus, bod yn anfoesgar, yn swnllyd neu'n feddw neu am ddatgelu busnes y gymdeithas i rai nad oeddent yn aelodau.

Digwyddiad pwysicaf y flwyddyn oedd 'gwledd y clwb"!, a gynhelid ym Mhen-y-bob bob mis Mai

Yn 1879 roedd gan y gymdeithas 466 o aelodau a £1,928 yn y gronfa. Cafodd y Gymdeithas ei diddymu ym mis Mai 1885 a ffurfiwyd cangen o Urdd Hynafol y Fforestwyr yn fuan wedyn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw