Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gwnaed gan Hilary J Davies a'i merched o CND Penrhyndeudraeth (tua 1980). Defnyddiwyd y faner mewn ralïau gwrth-arfau ond cafodd ei gwneud mewn gwirionedd ar gyfer protest 'nodi'r llwybr' yn erbyn cludo gwastraff niwclear o orsaf niwclear gyfagos.

Gwnaed y faner o hen len neilon a ddewiswyd am fod modd ei golchi a'r bwriad oedd ei defnyddio'n aml. Dewiswyd porffor am fod y lliw hwn i'w weld yn dda ar deledu lliw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw