Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r faner hon yn perthyn i ddiwedd yr 1930au ac mae'n cynnwys portread o Mrs Despard a La Pasionaria. Ffurfiodd Mrs Despard Gynghrair Rhyddid Menywod yn 1907 a daeth yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol yn 1930. Roedd La Pasionaria (Dolores Ibárruri) yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Sbaen ac yn brif bropagandydd y Gweriniaethwyr yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Rhoddwyd y faner gan Blaid Gomiwnyddol Cymru i Gasgliad Maes Glo De Cymru yn 2002.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw