Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.

Thomas Charles oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw y Methodistiaid yng Nghymru. Roedd yn frodor o Sir Gaerfyrddin ond ymsefydlodd yn y Bala ym 1783. Sefydlodd nifer o ysgolion Sul cylchynol a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu'r Gymdeithas Feiblau ym 1804. Ef oedd yn gyfrifol am olygu Beibl Cymraeg cyntaf y Gymdeithas honno ac erbyn ei farwolaeth ym 1814, amcangyfrifir iddo gyhoeddi a dosbarthu tua 320,000 o lyfrau ymhlith ei gyd-Gymry.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw