Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyfais yw mesurydd diferion sydd yn mesur datguddiad unigolyn i amgylchfyd peryglus, yn enwedig pan fo'r perygl yn gwaethygu dros amser, neu oes. Mesurydd pelydredd yw hwn, ond mae mesuryddion eraill yn bodoli, yn enwedig mesuryddion sain.
Dyfais fel ysgrifbin yw mesurydd pelydredd sy'n mesur y dogn cynyddol o belydredd sy'n cael ei dderbyn gan y ddyfais. Fel arfer mae'n cael ei glipio ar ddilledyn i fesur datgeliad person i belydredd. Mae lensys chwyddwydr (microsgop gwan) a lens goleuo'n caniatáu i chi ddarllen y dogn gan anelu'r lens at olau ac edrych i mewn i'r ddyfais.
Rhaid trydanu mesuryddion o bryd i'w gilydd. Darllennir mesurydd fel arfer cyn iddo gael ei drydanu, ac yna caiff y dogn ei nodi. Mewn llawer o gyfungyrff, caiff y trydanydd ei gadw gan ffisegydd iechyd er mwyn atal ffugio datgeliadau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw