Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Defnyddiwyd bomiau cynnau tân fel marcwyr gan awyrennau bomio yn ystod cyrchoedd awyr. Nid oeddynt yn ffrwydro ond yn hytrach yn cynnau tân ac felly'n dangos i'r criwiau awyr ble ddylent ollwng eu bomiau.

Bom cynnau tân o'r Almaen yw hwn, ac fe'i ollyngwyd ger Ffatri Ordnans Frenhinol Penybont-ar-Ogwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd rhan o'r ffatri wedi ei lleoli yn yr adeilad sydd erbyn hyn yn gartref i Bencadlys Heddlu De Cymru. Fe'i ddiffiwswyd ac fe dorrwyd rhan allan ohono, fel y gallai gael ei ddefnyddio at bwrpasau hyfforddi.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw