Tiwnig, helmed dun a mwgwd nwy Heddlu Sir Forgannwg o'r Ail Ryfel Byd, 1939-45
Disgrifiadau
Gwisg Heddlu Sir Forgannwg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dosbarthwyd helmedau amddiffynnol i holl aelodau'r heddlu i'w diogelu rhag shrapnel a theilchion. Gelwid yr helmedau yn helmedau 'tun' er eu bod wedi eu gwneud o ddur. Ar ddechrau'r rhyfel roeddent wedi eu padio, ond rhoddwyd terfyn ar hyn pan ddaeth deunyddiau'n brin. Byddai swyddogion yr heddlu'n gwisgo'r helmedau hyn am hyd at 8 awr neu hyd cyrch awyr. Byddai eu pennau a'u hysgwyddau'n brifo dan y baich.
Roedd aelodau'r cyhoedd yn cario eu mygydau nwy mewn bocsys pren, ond byddai swyddogion yr heddlu'n cario eu mygydau hwy mewn cas cynfas cryf o amgylch eu gyddfau. Roedd hyn yn ei wneud yn haws iddynt weithio.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (1)
Submitted by Ross Mather Po… on Gwen, 14/11/2014 - 15:11
This tunic has been incorrectly listed. It is in fact a tunic of the 'Cardiff City Police' and NOT Glamorgan Constabulary
You must be logged in to leave a comment