Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ymunodd Ernest Rolling - ' Y Dyn a Enillodd y Rhyfel' - â Heddlu Sir Forgannwg ym 1913. Ymadawodd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, pryd enillodd y Groes Filwrol am ddewrder ddwywaith, unwaith pan oedd yn gwasanaethu mewn tanc, a'r eildro tra oedd mewn cerbyd arfog. Ym 1918 ailymunodd Rollings â Heddlu Sir Forgannwg, a symudodd i Fwrdeistref Castell-nedd ym 1922. Yno daeth yn Arolygydd a Phrif Gwnstabl Dros-Dro tan ei ymddeoliad ym 1943.

Yn y 1930au adnabuwyd Rollings fel 'Y Dyn a enillodd y Rhyfel'. Mae dyddiadur un o'i gyd-swyddogion yn adrodd hanes yr adeg pan enillodd y Fedal Filwrol am yr eildro: aeth y tu ôl i amddiffynfeydd y gelyn a chipio cynlluniau amddiffynfeydd enwog Hindenburg. Cynorthwyodd rhain i Gadfridogion y Cynghreiriaid drefnu ymosodiadau mawr olaf 1918 pan orchfygodd lluoedd y Cynghreiriaid ffosydd yr Almaenwyr ac ennill y rhyfel. Dathlodd Bwrdeistref Castell-nedd y digwyddiad gan gyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i Rollings y tu fewn i'r gist arian hon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw