Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Drych a wnaed gan garcharorion Gwersyll Carcharorion Rhyfel Island Farm, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Ym 1943 cafodd gwersyll Island Farm ei ddefnyddio gan luoedd arfog Americanaidd a oedd yn paratoi ar gyfer glaniadau D-Day, ond erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd yn gartref i 2000 o garcharorion rhyfel o'r Almaen. Dyma leoliad yr ymgais fwyaf o'i bath gan garcharorion rhyfel Almaenig i ddianc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar 11 Mawrth 1945, llwyddodd 67 o uchel-swyddogion Natsïaidd i gael eu traed yn rhydd am gyfnod wedi iddynt dyllu twnnel o Gwt rhif 9.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw