Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Esgob Bangor yn gweinyddu yn ystod y seremoni i osod carreg ar fedd Daniel Silvan Evans yng Nghemaes, Sir Drefaldwyn. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yr oedd y bardd a'r llenor, T. H. Parry-Williams.

Ganed yr ysgolhaig a'r geiriadurwr Daniel Silvan Evans (1818-1903) yn Llannarth, Sir Aberteifi. Bu'n gweithio fel athro am gyfnod cyn cael ei ordeinio'n offeiriad. Bu'n gwasanaethu mewn nifer o blwyfi yn y gogledd, cyn diweddu ei oes yn Llanwrin. Bu'n darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth rhwng 1875 a 1883. Cofir ef yn bennaf am ei waith fel geiriadurwr. Treuliodd gyfnod maith yn casglu deunydd ar gyfer ei Eiriadur Cymraeg gan gyhoeddi ei waith fesul rhan. Fodd bynnag, ni chwblhawyd y gwaith cyn ei farwolaeth ym 1903.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw