arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Roedd siop '(A.) Davies - The Park Newsagency, Stationery and Fancy Repository' wedi ei lleoli yn rhif 109 Heol Albany, Y Rhath, Caerdydd, ar y gornel gyda Heol Wellfield. Roedd y siop wedi ei lleoli mewn adeilad a adeiladwyd yn wreiddiol fel tŷ preifat tua'r flwyddyn 1892. Cafodd y ffenestr fae ar y llawr isaf a'r cwrt o flaen y tŷ eu haddasu tua'r flwyddyn 1900 ar gyfer agor siop. Cafodd y tŷ a'r tŷ drws nesaf (rhif 111) eu dymchwel tua'r flwyddyn 1913-14 pan adeiladwyd Sinema'r Globe ar y safle. Mae'r Sinema bellach wedi ei ddymchwel hefyd.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw