Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Agorwyd y Llawr Sglefrio Americanaidd, adeilad haearn rhychog anferth yn Heol y Porth, Caerdydd, gyferbyn â Swyddfa'r Post, ym 1908. Dros y blynyddoedd daeth miloedd o drigolion Caerdydd i'r llawr sglefrio i ddysgu sut i ddawnsio ar esgidiau rholio i gyfeiliant band pres. Roedd yr adeilad hefyd yn lleoliad i nifer o ddigwyddiadau chwaraeon a gwleidyddol: yma yr ymladdodd y bocsiwr o Gaerdydd 'Peerless Jim Driscoll' (1880-1925) yn erbyn Freddy Welsh (1886-1927) o flaen tyrfa o 10,000, ac yma hefyd y cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gwleidyddol, gyda Herbert Henry Asquith a David Lloyd George yn areithio yn eu tro. Tynnwyd y llawr sglefrio yn ddarnau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, a'i ailgodi yn Heol y Felin, Trelái, lle cafodd ei ddefnyddio i adeiladu paneli concrit ar gyfer tai yn Sgwâr Caerau.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw