Toriad papur newydd - 'Front View, Cardiff Exhibition, 1896'
Disgrifiadau
Cafodd y syniad gwreiddiol i gynnal arddangosfa gelfyddydol a diwydiannol ei gynnig gan Bwyllgor Llyfrgell Rydd Bwrdeistref Caerdydd. Ffurfiwyd pwyllgor cyffredinol yn cynnwys pobl gyhoeddus, pobl fusnes a diwydianwyr a oedd yn awyddus i hybu adnoddau a diwydiannau lleol Caerdydd. Rhoddodd Ardalydd Biwt ganiatâd i gynnal yr arddangosfa ym Mharc Cathays. Cafodd y brif neuadd arddangos ei chynllunio gan y pensaer lleol Edwin Seward, ac roedd yn cynnwys eitemau yn amrywio o beiriannau i enghreifftiau o waith celf gain. Y tu allan i'r brif neuadd ar y maes roedd digonedd o bethau i'w gweld, gan gynnwys camlas a llyn ar gyfer arddangosfa forwrol, modelau o laethdy, ffatri fisgedi a chartref Shakespeare. Roedd y cyfan yn un sioe anhygoel i'r synhwyrau, a chynhaliwyd arddangosfeydd celf, cyngherddau, sioeau awyr agored, a basar Indiaidd egsotig. Roedd yr arddangosfa ar agor i'r cyhoedd am chwe mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe wnaeth miliwn o bobl ymweld â hi.
Ffynhonnell: Archifdy Morgannwg http://www.glamro.gov.uk/check/Building%20of%20a%20Capital%202/A_Education.html
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment