Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ffotograff o long ysbyty'r Hamadryad a oedd yn gwasanaethu morwyr a llongwyr Caerdydd o'r 1860au tan 1905. Cafodd y llong ryfel hon ei hadeiladu yn Noc Penfro ym 1823, ond ni chafodd ei defnyddio erioed ar gyfer ei pwrpas gwreiddiol. Er iddi gael ei symud yn ddiweddarach i Devonport ar gyfer ei ffitio, ni chafodd ei chwblhau ac ym 1866 cafodd ei thynnu i Gaerdydd i'w haddasu yn ysbyty ar gyfer 50 o gleifion. Roedd y llong wedi ei hangori yn nociau Caerdydd ar safle a gyflwynwyd yn rhodd gan Ardalydd Biwt, i'r gorllewin o'r fynedfa i Gamlas Morgannwg. Ym 1904 adeiladwyd ysbyty newydd ar y tir mawr ar gyfer morwyr Caerdydd, ac i gofnodi jiwbilî ddeimwnt y Frenhines Victoria. Agorwyd Ysbyty Frenhinol Hamadryad yn swyddogol ar 29 Mehefin 1905 gan y 4ydd Ardalydd Biwt. Cafodd y llong segur ei thynnu i Bideford, Dyfnaint, ar gyfer ei chwalu ond cafodd cloch y llong a'r blaenddelw eu cadw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw