Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Charles Bassett yn gymeriad blaenllaw ym mywyd masnachol a chyhoeddus Pontypridd yng nghanol y 19eg ganrif. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Marchnad Pontypridd ym 1877. Daeth i Bontypridd tua'r flwyddyn 1840 gan sefydlu cwmni llewyrchus fel fferyllydd, y busnes cyntaf o'i fath yn y dref. Ym 1843 cafodd ei benodi yn bostfeistr a hynny ar adeg pan anfonwyd llai na 400 o lythyrau i'r dref bob wythnos. Yn rhinwedd ei swydd fel postfeistr daeth Bassett yn gyfrifol am fabwysiadu'r enw Pontypridd ar y dref ym 1856. Cyn hynny, 'Newbridge' oedd enw'r dref hon ar lan Afon Taf ond roedd Bassett yn awyddus i ddatrys y dryswch a oedd yn codi wrth i'r dref gael ei chamgymryd am Newbridge (Trecelyn), Sir Fynwy, a Newbridge (Pontnewydd-ar-Gwy), Sir Faesyfed.

Ffynhonnell:
'The Old Photographs Series: Pontypridd', wedi eu dethol o Gasgliad Canolfan Treftadaeth a Hanes Pontypridd, gan Simon Eckley a staff y Ganolfan (Chalford Publishing, Stroud, 1994).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw