Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lluniwyd y bil hwn am waith adeiladu a ffensio yn Rhostrehwfa, plwyf Cerrigceinwen, Sir Fôn, gan John Prichard ym mis Medi 1823. Ar y pryd, roedd y tir ym mherchnogaeth ffeodedigion neu ymddiriedolwyr Elusen David Hughes. Sefydlwyd yr elusen gan David Hughes, sylfaenydd Yr Ysgol Ramadeg Rad ym Miwmares ym 1603. Wedi sefydlu'r ysgol, prynodd David Hughes nifer o ffermydd yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon er mwyn darparu gwaddol parhaol i'w elusen. Prynwyd tir ychwanegol gan y ffeodedigion yn ddiweddarach ac roedd nifer o'r ffermydd hyn yn parhau ym mherchnogaeth yr elusen pan drosglwyddwyd yr ysgol i ofal y sir ym 1895.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw