Skip to main content

Seremoni agor Capel Pen-rhiw yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, 21 Mehefin 1956

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.

Roedd Capel Pen-rhiw yn sefyll yn wreiddiol yn Nhre-fach, Felindre, Sir Gaerfyrddin, ond cafodd ei ail-godi ar safle Amgueddfa Werin Cymru ym 1956.

Roedd Capel Pen-rhiw yn eiddo i enwad yr Undodwyr, ac fe'i agorwyd ym 1777. Mae'r adeilad syml a diaddurn hwn yn nodweddiadol o gapeli Anghydffurfiol cynnar Cymru, lle adeiladwyd y mynediad ar hyd un o'r waliau hir. Roedd y capeli a adeiladwyd yn ddiweddarach o gynllun llawer mwy crand gyda'r drysau wedi eu gosod yn y waliau talcen addurnedig. Yn achos Capel Pen-rhiw, credir i adeilad cynharach, ysgubor o bosibl, gael ei addasu ym 1777 at ddefnydd yr Undodwyr. Mae Undodiaeth yn cael ei ystyried yn enwad goddefol â chanddo hanes hir a diddorol yng Nghymru.

Roedd llofft yn y capel gwreiddiol ond cafodd hwn ei dynnu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn codi'r oriel presennol gan ychwanegu at nifer y seddau. Mae'r corau (seddau) ar y llawr isaf oll ychydig yn wahanol i'w gilydd, ac mae hyn yn dangos iddynt gael eu hadeiladu ar gyfer y teuluoedd a oedd yn gyfrifol amdanynt. Arferai diaconiaid y capel eistedd mewn côr ar un ochr i'r pulpud uchel, a godwyd pan adeiladwyd yr oriel. Llawr pridd sydd i'r capel hwn, ac eithrio gerllaw'r bwrdd cymun lle gosodwyd pren ar y llawr. Roedd y seddau cerrig, sydd i'w gweld y tu allan i'r capel, yn cael eu defnyddio yn ystod gwyliau pregethu.

Mae addysg yn bwysig iawn i'r Undodwyr a bu'r capel yn gartref i ysgol elfennol ac ysgol ramadeg yn ystod ei oes. Mae gwasanaethau crefyddol yn parhau i gael eu cynnal yn gyson yn yr adeilad cysegredig hwn.

Disgrifiad gan Amgueddfa Werin Cymru.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ12041
Eitem wedi’i llwytho:
29/7/2009
Date originally created:
21/6/1956
Gwelediadau:
2408
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment