Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Fel gwyddonydd cymunedol OPAL, fy rôl gydag Amgueddfa Cymru yw helpu ein cynulleidfaoedd i ymgysylltu â natur a gwyddoniaeth trwy gynnal arolygon natur OPAL gydag ysgolion, grwpiau cymuned, prifysgolion a’r cyhoedd. Ynghyd â’r arolygon, rwy’n cynnal gweithgareddau addysgiadol hwyliog i ddysgu pobl am wyddoniaeth.
Fis diwethaf fe wnes i a’r animeiddwraig, Sophie Seymour gynnal diwrnod ar thema trychfilod gyda grŵp o wirfoddolwyr o Green Days, gan ddefnyddio arolwg cyfri trychfilod OPAL a gweithdy animeiddio. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fi, yn dysgu mewn ffordd weledol, felly roeddwn i am greu gweithgaredd y byddwn i fy hun wedi ei deall a dysgu ohoni.
Mae Green Days yn dod ag oedolion sydd ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl at ei gilydd i warchod natur trwy reoli a chynnal a chadw gwarchodfeydd. Diben y project yw rhoi’r hyder a sgiliau i aelodau allu byw’n annibynnol, ac mae arolwg Cyfri Trychfilod OPAL yn ffordd wych o gael pobl allan i archwilio’u cynefin.
Hwn yw arolwg mwyaf poblogaidd OPAL, ac mae’n hawdd gweld pam. O fewn munudau roedd y grŵp wedi ymgolli yn y gwaith o gyfri pryfed lludw, larfau chwilod, gwyfynod, ceiliogod rhedyn, corynod, nadroedd cantroed a miltroed yng ngerddi castell Sain Ffagan. Roedd gennym ganllaw trychfilod OPAL er mwyn adnabod y trychfilod trwy gyfri nifer y coesau ac astudio’r cyrff. Mae data OPAL yn helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am ddosraniad rhywogaethau di-asgwrn-cefn a sut i’w gwarchod.
O drychfilod go iawn i gorynod clai
Roedd y gweithdy animeiddio yn gyfle perffaith i ddysgu am y gwahaniaethau rhwng rhywogaethau di-asgwrn-cefn. Roedd Sophie wedi dylunio pum rhywogaeth frodorol i’w animeiddio – gan gynnwys rhai y daethom ar eu traws yn gynt yn y dydd.
Aeth pawb ati i greu trychfilod gyda chlai, glanhawyr pibell a llygaid symudol. Yna dangosodd Sophie sut i ddod â nhw yn fyw, drwy eu symud a thynnu lluniau ohonynt. Bu rhai o’r cyfranwyr yn gweithio mewn grwpiau i animeiddio ras, parti a gêm bêl-droed, tra bu eraill yn animeiddio eu trychfilod eu hunain. Defnyddiodd Sophie feddalwedd i olygu’r animeiddiadau i ychwanegu synau. Ar ddiwedd y dydd, cafwyd rownd neu ddwy o bingo trychfilod, oedd yn llawer o hwyl ac yn ffordd wych o ddysgu am drychfilod diarth fel y pryf tsetse, sy’n sugno gwaed ac yn cario Trypanosomiasis.
Roedd y dydd yn llwyddiant a’r holl gyfranwyr eisiau rhoi cynnig arall ar y gweithgareddau, a doedd dim stop ar eu cwestiynau am wahanol rywogaethau. Aeth popeth yn dda, a doedd dim rhaid i mi ddwyn perswâd ar neb i gymryd rhan. Ar ôl cynnal y diwrnod ac amseru popeth yn dda, rwy’n ystyried ei dreialu gyda disgyblion cyfnod allweddol 2 ynghyd â’r modiwlau bwystfilod bach.
Os ydych yn byw yng Nghaerdydd ac â diddordeb cymryd rhan yng ngweithgareddau OPAL, cysylltwch â k[email protected] [email protected]
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw