Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

William Howells (1880–22.8.1917). Gynnwr 102610, RGA.
Ganed William yn Gilfach, Llanychaer, yn ŵr i Charlotte Howells, Bwthyn Llanfair, Trecwn. Ymunodd â’r fyddin yn Nhreletert, i’r RGA ar 11 Rhag 1915. Treuliodd blwyddyn yn Lloegr, cyn ymuno â’r BEF yn Ffrainc yn Rhagfyr 1916, ac fe’i anfonwyd i’r 121 Bateri Trwm, RGA. Fe’i clwyfwyd yn Arras ar 25 Ebrill 1917, a bu yn ysybyty Rouen tan 9 Mehefin 1917. Ymunodd wedyn â 2 (Llundain) Bateri Trwm, RGA, yn Ypres. Lladdwyd ar faes y gad yn Ypres ym Mrwydr Passchendaele ar 22 Awst 1917, yn 37 oed, ac fe’i claddwyd ar faes y frwydr. Codwyd ei gorff yn ddiweddarach ac fe’i ail gladdwyd ym Estyniad Mynwent Tref Ypres, Gwlad Belg. (Cofeb arbennig rhif 6). Gadawodd pump o blant Stephen, Martha, David, Thomas a Daniel.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw