Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Disgrifiadau
Llun o ran o Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin am yr Ysbyty. Yn y llun hwn, mae modd i chi weld y ffôn lle y byddai modd gwrando ar hanesion llafar, a'r rhesel ddillad, a oedd yn esbonio sut yr oedd arferion wedi newid o ran dillad ac eiddo preswylwyr. Yn ystod y blynyddoedd cynharach yn oes yr ysbytai aros am gyfnod hir, roedd bron popeth yn cael ei drin fel pethau cymunol, gan gynnwys dillad, tywelion a brwsys dannedd hyd yn oed. Wrth i amser fynd yn ei flaen, newidiodd y staff yn yr ysbytai eu harferion er mwyn personoli eiddo yn fwy, megis ychwanegu tagiau enw i ddillad, neu fynd â phreswylwyr i siopa.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment