Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym 1327, daeth y Brenin Edward II i Langynwyd i hawlio'r castell, ond roedd yn nwylo ei elynion. Dywedir iddo guddio rhagddynt mewn coeden ar fferm Gelli Lenor Fawr, cyn troi am Gaerffili a chael ei ddal ger Llantrisant. Roedd boncyff y goeden y dywedir i Edward guddio ynddi yn arfer bodoli, ond bellach carreg â'r arysgrifiad "Cadair Edward II, 1327" sydd i'w gweld ar y safle.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw