Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Toriad papur newydd a oedd yn disgrifio'r dicter ymhlith y cyhoedd am y cynlluniau i gau Ysbyty Llanfrechfra Grange. Cychwynnwyd y cynlluniau ar [dyddiad] ac yn yr un modd â nifer o gymunedau ar draws Cymru; bu pobl leol yn protestio am y syniad o adsefydlu. Bu'r grwpiau yng Nghwmbrân, megis Cymdeithas Preswylwyr, Perthnasau a Chefnogwyr Llanfrechfra Grange a RAGE yn gwrthwynebu'r syniad mewn ffordd weithredol, ac roeddent ymhlith y gwrthwynebiad mwyaf i'r cynigion yng Nghymru. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth ac yn ddealladwy. Roedd nifer o rieni wedi rhoi eu hymddiriedaeth lwyr mewn system, a awgrymwyd, fel y lle mwyaf diogel i'w meibion a'u merched dreulio'u bywydau, i ffwrdd o ragfarn cymdeithasau ehangach. Roedd adsefydlu a'r cynnig i gau'r ysbyty, yn enwedig yn dilyn adroddiadau am gyfleusterau eraill yng Nghymru, megis Trelái, wedi troi hyn ar ei ben, gan orfodi nifer o rieni i ystyried y ffaith nad oedd yr ysbytai hyn wedi cynnig yr hafan ddiogel yr oeddent wedi dychmygu y byddent yn eu cynnig efallai. Yn ogystal, mynegwyd pryderon am anghenion penodol nifer o breswylwyr, ac ynghylch sut y byddai modd bodloni'r rhain yn y dewisiadau amgen i ysbytai lle y byddai pobl yn aros am gyfnod hir.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw