Skip to main content

Dyddiau olaf Ysgol Capel Celyn, Hydref 1962

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yn sgil y cynllun mawr i adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn a boddi pentref Capel Celyn (Cwm Tryweryn) a'r ysgol leol, aeth Geoff Charles ati i dynnu lluniau'r disgyblion. Roedd y cwbl ond dau o'r deg disgybl yn dwyn y cyfenw Jones, sef: Jane Watkin, Rhian, Lowri Mair, Arfon, Ann Elizabeth, Euron, Geraint, ac Eurgain; Tryweryn Evans ac Elwyn Rowlands oedd y ddau blentyn arall. Mrs. M. J. Roberts oedd athrawes yr ysgol. Cyhoeddwyd y ffotograff hwn yn 'Y Cymro', 1 Tachwedd 1962.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ11843
Eitem wedi’i llwytho:
24/7/2009
Date originally created:
10/1962
Gwelediadau:
1735
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment