Skip to main content

Vol Flyer Eng

Disgrifiadau

Gweithredwyr llinell gymorth gwirfoddol

Mae Action on Elder Abuse Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddedig i weithio fel gweithredwyr ar linell gymorth Action on Elder Abuse. Mae ein llinell gymorth wedi bod yn gweithredu ers 1997, ac mae’n cynnig cymorth emosiynol a chyngor i filoedd o alwyr bob blwyddyn. Ar ôl ennill cyllid gan y Gronfa Loteri Fawr rydyn ni’n gwella ein cymorth i ddioddefwyr hŷn yng Nghymru drwy sicrhau ei bod yn haws cael mynediad at ein llinell gymorth a’i bod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog.
Rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr o bob rhan o Gymru i ddarparu cymorth i ddioddefwyr camdriniaeth, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a gweithwyr proffesiynol. Bydd rhaid i chi fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog a gallu gweithio’n annibynnol gan mai o’ch cartref y byddech yn gweithio. Byddwch yn cael hyfforddiant, cymorth a goruchwyliaeth. Rydyn ni’n gofyn am ymrwymiad o ddwy awr yr wythnos o leiaf.

Owner:
AEA Cymru
Crëwr:
Rhiannon Robertson
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
23/2/2017
Gwelediadau:
357
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment