Skip to main content

Chwiban Carreg Fflint

Disgrifiadau

Cafodd y chwiban eu rhoi i Enoch Rees, prif arddwr Plas Llangoedmor ger Aberteifi gan y Cyrnol Herbert Vaughan, perchennog y plas, i amddiffyn ei eiddo a’i deulu rhag ymosodiad.

Roedd plwyf Llangoedmor ar lan afon Teifi, ar y ffordd dyrpeg rhwng Aberteifi a Chastellnewydd Emlyn. Efallai fod y Cyrnol Herbert Vaughan, fel aelod o’r bonedd, wedi cyllido’r cwmni tyrpeg a adeiladodd y ffordd hon. Ar 23 Mehefin 1843, ymosododd Merched Beca ar dollbyrth ardal Aberteifi. Gyda chymorth tua 200 o’i ‘phlant’, aeth Beca ati i ymosod ar dollty a thollborth y Rhos cyn gorymdeithio trwy dref Aberteifi ac ymlaen i dollbyrth Rhydyfuwch a Llangoedmor.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
4/1/2017
Gwelediadau:
605
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment