Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd cannoedd o lythyron yn bygwth trais a gweithredu eu hanfon at y wasg ac unigolion ledled y gorllewin yn enw Beca. Ysgrifennwyd y llythyr bygythiol hwn at y Parchedig Collins ar 11 Medi 1843, ar ôl iddo wrthod derbyn mesur a gyflwynwyd gan bwyllgor lleol i leihau nifer y tollbyrth yn yr ardal.

Yn anffodus, does dim tystiolaeth i ddangos a newidiodd y Parchedig ei feddwl ar ôl derbyn y llythyr, ac ni wyddom a aeth Merched Beca ati i weithredu yn ei erbyn. Rhoddwyd y llythyr i’r Amgueddfa gan fab y Parchedig 84 o flynyddoedd wedi’r digwyddiad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw