Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae’r poster hwn yn cynnig gwobr o £500 i unrhyw un a allai ddarparu gwybodaeth am ymosodiad treisgar ar Gelliwernen. Er nad ydym yn gwybod a wnaeth unrhyw un roi gwybodaeth i’r awdurdodau, go brin y digwyddodd hynny. Roedd dilynwyr Merched Beca yn driw iawn a’r rhan fwyaf o’r bobl gyffredin yn cydymdeimlo â’r achos.
Mae’r poster hwn yn dangos pa mor ddifrifol oedd agwedd yr awdurdodau tuag at derfysgoedd Beca. Mae’n dangos hefyd bod y terfysgwyr yn dechrau newid eu tactegau, yn ymosod ar dlotai, ffermdai a phobl yn ogystal â tholltai a thollbyrth. Unrhyw un ac unrhyw beth oedd â grym a rheolaeth dros werin y wlad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw