Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Credir bod y pastwn hwn wedi’i ddefnyddio i dawelu Terfysgoedd Beca yn Sir Gâr.
Mae arfbais frenhinol Siôr y Trydydd i’w gweld arno. Daeth ei deyrnasiad i ben ym 1820, ond wrth ystyried amgylchiadau’r terfysgoedd, mae’n dal yn bosibl bod y pastwn wedi’i ddefnyddio yn erbyn Merched Beca rhwng 1839 a 1844.

Roedd awdurdodau’r Gorllewin yn gwbl ddiymadferth yn wyneb yr ymosodiadau hyn, a gofynnwyd i’r llywodraeth am gymorth - ond dim ond dau heddwas o heddlu Lundain a anfonwyd ym 1843. Yn eu cyfyng gyngor, ceisiodd ynadon y Gorllewin gymell ffermwyr dibynadwy i dyngu llw fel cwnstabliaid arbennig i’w helpu i gadw cyfraith a threfn. Er i sawl ffarmwr dderbyn llythyr bygythiol gan Beca, ac wynebu ymosodiadau hyd yn oed i’w rhwystro rhag gwneud hyn, mae’n rhaid bod ambell un wedi derbyn y cynnig. Yn eu brys, mae’n bosib nad oedd amser i gynhyrchu pastynau newydd a’u bod wedi gorfod defnyddio hen rai. Byddai hyn yn esbonio pam bod y pastwn yn perthyn i gyfnod cynharach na’r terfysgoedd. Hefyd, mae’r gair LLANGENDEYRN wedi’i naddu ar y pastwn. Gwyddom fod Merched Beca wedi ymosod ar dargedau yng Nghydweli, Sir Gâr, ar 4 Chwefror 1843 - yn agos i bentref Llangyndeyrn, a’u bod wedi dychwelyd yno ddiwedd haf 1843.

Rhif cyfeirnod: DF003611_04

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw