Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
This content isn't available for download, please contact us.
Disgrifiad
William, a elwir yn Bill, a anwyd yn Nhonypandy yn 1890. Mae cyfrifiad 1901 yn dangos yr oedd yn 11 mlwydd oed yn gweithio fel bachgen drws yn y pwll glo. Ym 1911 yn 21 oed yr oedd yn lletya gyda'i chwaer Catherine a'i theulu yn 6 Knoll Terrace, Tonypandy. 25 diwrnod ar ôl y cyfrifiad 1911 (Ebrill 2) gadawodd y DU ac ymdeithiodd ar ben ei hun i'r UDA. Gadawodd Southampton ar y S.S. Teutonic, (ef oedd yr unig deithwyr Cymraeg) a chyrhaeddodd Efrog Newydd ym mis Ebrill. Ar ôl tua blwyddyn yn gweithio fel labrwr, ymunodd â fyddin yr UDA, (12fed U.D.A. Troedfilwyr) gan ymrestru yn Fort Slocombe, Efrog Newydd, a'i anfon i Nogales, Arizona. Bu'n gwasanaethu am dair blynedd, ac ar ôl iddo cael ei ryddhau fe gadawodd yr UDA a dychwelodd i Loegr. Ymunodd yn syth â'r Magnelau Brenhinol a gwasanaethodd drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei dadfyddino fel Uwch-ringyll. Dychwelodd i'r pyllau am ychydig ac enillodd ei chymhwyster dyn tân yn 1919. Ei gyfeiriad ar y pryd oedd 2, Inverleith Terrace, Llwynypia. Ar ôl hyn ymunodd Pratts Petrolewm a symudodd i Fryste lle bu'n cyfarfod â'i wraig, Gladys. Cafodd ei drosglwyddo i Evesham, lle bu'n magu teulu. Cafodd cwmni Pratts ei gymryd drosodd gan Esso a gweithiodd Bill iddynt hwy am weddill ei fywyd gwaith.Yn y 1920au datblygodd ddiddordeb mawr mewn sinematograffiaeth. Ar ôl ei farwolaeth, darganfyddwyd rholiau ffilm gan ei deulu ac yn y pendraw f'eu cafwyd eu trosglwyddo i dâp fideo. Mae llawer o'r ffilm hon bellach ynghlwm wrth linach y teulu. Yn anffodus, bu ei feibion yn cael gafael ar y ffilmiau pan roeddent yn blant gan achosi difrod sylweddol iddynt gan orfodi'r ffilmiau drwy'r math anghywir o taflunydd.Roedd Bill hefyd yn ddyn undeb cryf, ac ar ôl iddo rhoi araith mewn rali yn Evesham bu'n derbyn llythyr gan Esso yn rhybuddio y byddai'n cael ei ddisgyblu os nad oedd yn rhoi'r gorau i'r gweithgaredd. Bu Bill farw yn 1947 o gyflwr afu. Roedd bob amser yn cadw acen Gymreig gref. Bu'r teulu yn ymweld â Thonypandy nifer o weithiau, a bu mab Bill, Ken, yn disgrifio Inverleith Terrace mewn llythyr at ei gefnder: "It was a small mean looking place. There was a place to pull the car in what looked like a demolition area and their house was the second one in a small terrace. It had a small back garden that sloped up to a mountain behind them".
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (1)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw