Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen, Gorffennaf 1956
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
Bathwyd y syniad i gynnal Eisteddfod Gydwladol ym 1946, yn fuan wedi'r Ail Ryfel Byd, gan Harold Tudor, newyddiadurwr gyda'r 'Liverpool Daily Post' a oedd hefyd yn drefnydd rhanbarthol gyda'r Cyngor Prydeinig. Bu Tudor yn trafod ei syniad i gynnal digwyddiad o'r fath yn Llangollen gyda W. S. Gwynn Williams, ffigwr blaenllaw ym maes cerddoriaeth yng Nghymru a'r Eisteddfod Genedlaethol, a oedd hefyd yn cyhoeddi cerddoriaeth. Trefnwyd cyfarfod gyda chadeirydd Cyngor Dinesig Llangollen lle rhoddwyd croeso brwd i'r syniad. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Gydwladol gyntaf yn y dref ym Mehefin 1946 ac mae'r eisteddfod wedi ei chynnal yn Llangollen yn flynyddol fyth ers hynny.
Ffynhonnell: https://international-eisteddfod.co.uk
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment