Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Mae Casgliad Norman Tucker yn cynnwys cyfres o luniau o Ypres a dynnwyd yn 1913 ac yna 1919 ychydig ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben, gyda llythyr at Norman Tucker gan ei ffrind Pat Wainwright o Llewelyn Road, Bae Colwyn, wedi'i ysgrifennu tra oedd yn segur; hefyd cardiau post a ffotograffau amrywiol wedi'u trefnu yn ôl lle neu bwnc, a gasglwyd gan Norman Tucker. Mae ffotograffau gyda delweddau o Ypres rhyfel, a ddefnyddir ar gyfer ysgrifennu papur fel papur yn brin, yn dwyn llythyr: Pat Wainwright at Norman Tucker. -- Mae'n rhoi newyddion bod ei wraig, Heléne, wedi rhoi genedigaeth i fab a fydd yn cael ei fedyddio yn Norman James Wainwright. Sonia hefyd am godiad cyflog diweddar i £3.8s.10d. Yna aiff ymlaen i ddisgrifio cynnwys y ffotograffau [2 y cyfeirir atynt nad ydynt yn bresennol]. Mae'n dweud eu bod yn ddilys a bod y wraig yn /1 a /4 yn fodryb i Heléne. Diwedda trwy trwy ofyn i Norman Tucker am wybodaeth am Ganada, lle mae'n deall bod cyflogau'n well. - [Roedd Pat Wainwright yn ddeiliad medal filwrol yn y Gatrawd Signalau Brenhinol]. (CP149/1/1) Cefn Ypres Asylum, cyn bencadlys Batalion, gyda milwr a modryb Heléne mewn blaendir. Dywed Pat Wainwright ei fod yn 'farwolaeth sydyn pe baech yn dangos eich hun ar y ffordd' yn ystod y Rhyfel. (CP149/1/2) Rue de Lille, Ypres, yn dangos eglwys wedi ei bomio CP149/1/3: Blaen Ypres Asylum gyda thri milwr a modryb Heléne yn gosod ei llaw ar groes o flaen yr adeilad adfeiliedig. CP149/1/4: Maison d'Arret, Ypres, gyda modryb Heléne. CP149/1/5: Tanc nwy yn Ypres, a ddefnyddid gan y Fyddin Brydeinig fel man arsylwi. Mae Pat Wainwright yn ysgrifennu bod y 'X' yn nodi 'the famed "Hell fire corner". Byddai'r holl sieliau oedd yn methu'r tanc nwy yn disgyn ar, neu o gwmpas, y gornel hon a dyma pam roddwyd yr enw "Hell fire corner" arni.' CP149/1/6: Rue de Lille, Ypres, cyn y rhyfel, [1913]. 'Mae'r X yn dynodi'r 'Cloth Hall' fel yr oedd yn 1913-14'. Rhan o: Casgliad Norman Tucker (CP149)
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw