Esgid plentyn wedi’i darganfod yng Nghaerdydd
Disgrifiadau
Esgid plentyn wedi'i darganfod y tu ôl i le tân yng Nghaerdydd. Daeth yr esgid fach hon i'r fei diolch i berchnogion bwthyn Oak Meadow, Tredelerch, Caerdydd, wrth iddyn nhw agor lle tân ar yr aelwyd a datgelu ffwrn glai o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y tu ôl i'r ffwrn glai roedd ffwrn frics, lle cafodd esgid plentyn, cyllell, darn o ledr a choed tân eu darganfod. Roedd eitemau o ddillad yn cael eu cuddio'n fwriadol mewn tai ers talwm. Mae dillad wedi'u darganfod yn llechu y tu ôl i furiau ac o dan estyll ar hyd a lled y wlad. Cânt eu darganfod yn aml ger pwyntiau mynediad i gartrefi, fel drysau, ffenestri a simneiau. Credir bod yr eitemau hyn yn cael eu defnyddio fel swyn gwarchodol, a bod pobl yn eu gosod ger pwyntiau mynediad i'w tai yn y gobaith o gadw'r ysbrydion drwg draw ac felly'n amddiffyn yr aelwyd a'i thrigolion rhag drwg. Cyfeirnod: F79.103.2
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment