Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Esgid ledr plentyn (1903–1904), gyda phum ffasnin botwm ar yr ochr (mae’r botymau ar goll). Credir ei bod yn cael ei defnyddio fel swyn rhag anlwc a chafodd ei darganfod o dan lawr yn 10 Stryd Coplestone, Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.

Mae dillad wedi’u cuddio’n fwriadol mewn tai wedi cael eu darganfod tu ôl i waliau ac o dan loriau ar hyd a lled y wlad. Yn aml maent yn cael eu darganfod ger drysau, ffenestri a simneiau. Credir bod y dillad hyn – yn aml ag ôl gwisgo arnynt – yn cael eu defnyddio fel swyn i warchod preswylwyr rhag ysbrydion drwg, sy’n esbonio eu safle ger mynedfa’r tŷ.

Cyfeirnod: F83.115

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw