Adroddiad Ysgol Uwchradd - Dathliad Daucanmlwyddiant Gladstone 2009
Disgrifiadau
Am genedlaethau, mae Ysgol Uwchradd Penarlâg wedi bod yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol y pentref.O fy amser i yno yn ddisgybl, pan oedd ysytrid hi yn ysgol ramadeg gadarn i'r dydd hwn mae' llawer wedi newid,er ei bod yn parhau i fod yn ysgol 'gyfun' boblogaidd. Yn 2009 pan wnes i recordio'r cyfweliad, roedd yr ysgol ar i fyny.Roedd yn gallu ymfalchiïo yn ei henw da yn lleol a'r canfyddiad oedd ei bod yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl. Defnyddiais blwyddyn dathlu daucanmlwyddiant Gladstone fel esgus perffaith i daro heibio, dal fyny a sgwrsio gyda'r prifathro. Mae Roger Davies yn siarad gyda balchder am ei yrfa yn dysgu, ei ddyheadau personol a llwyddiannau amrywiol yr ysgol yn ystod ei gyfnod ef wrth y llyw ym Mhenarlâg. Ymddeolodd Roger Davies o'r ysgol yn 2015 er mwyn ymgymryd â swydd llawn amser fel ymgynghorydd addysg hŷn i Llywodraeth Cymru. D.S. Cafodd 'Llyfrgell Deiniol' y cyfeirir ati yn y sgwrs yma o 2009 ei hailenwi yn 'Llyfrgell Gladstone' yn 2010. Crewyd yr eitem hon fel cynhyrchiad gwirfoddol cymunedol gan John Butler gyda chymorth caredig Fred Snowden.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment