Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2000.
Themâu: datblygiadau mewn cydweithio dros y ganrif ddiwethaf, adeiladu ar y cydweithio a fu, parhau i ddysgu o gamgymeriadau ac anelu am fyd o heddwch, gan Ysgol Glanclwyd. Dyfyniad: "Canrif o ryfela oedd hi, meddai’r haneswyr, ond canrif o gydweithio a chwalu’r hen furiau rhwng y gwledydd, meddwn ni. Ni welwyd cymaint o gydweithio rhwng gwledydd erioed o’r blaen. Dyma ganrif sefydlu’r Cenhedloedd Unedig, Cymorth Cristnogol, Oxfam a Medecins Sans Frontières a thwf y Groes Goch. Bellach, pan fo argyfwng naturiol fel daeargryn neu lifogydd yn taro gwlad, y mae pawb yn barod i helpu er gwaethaf y ffraeo a fu yn y gorffennol, a daw’r cymorth hwnnw o fewn ychydig oriau.
’Rydym ni, blant a phobl ifainc y byd, yn chwarae rhan amlwg yn hyn trwy godi arian at wahanol achosion da. A NI, yn y ganrif hon, a fydd yn camu ymlaen gyda’r gwaith. Gadewch i ni, bobl ifainc y byd, adeiladu ar y cydweithio a fu, a dysgu oddi wrth gamgymeriadau y gorffennol, er mwyn creu byd o heddwch.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw