Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 1986.
Disgrifiadau
Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1986.
Themâu: gwrthwynebiad i arfau niwclear, Cymru gwlad cyntaf yng Ngorllewin Ewrop i ddatgan ei hun yn wlad ddi-niwclear, pryder fod llywodraethau’r byd yn gwastraffu eu cyfoeth ar bentyrru arfau niwlclear yn hytrach na trechu newyn, gweddi am gariad lle bo casineb, gobeithio ein bod yn cynnig gobaith am ddyfodol heddychlon, Blwyddyn Rhyngwladol Heddwch. Dyfyniad: ““Mae crynhoi arfau, yn arbennig arfau niwclear, yn llawer mwy o fygythiad i ddyfodol dynoliaeth nag ydyw o amddiffyniad.” Dyna ddatganiad gan y Cenehdloedd Unedig. Yn 1982 datganodd holl Gynghorau Sir Cymru eu gwrthwynebiad i dderbyn Arfau Niwclear ar eu tir. Cymru felly yw’r wlad gyntaf yng Ngorllewin Ewrop i ddatgan ei hun yn wlad ddi-niwlcear. Ni, yw llais ieuenctid Cymru yn erbyn yr arfau dinistriol hyn….Nid trwy ormes ag ofn mae adeiladu dyfodol ein cenehedloedd. Pryderwn fod llywodarethau’r byd yn gwastraffu eu cyfoeth ar bentyrru arfau niwclear. Byddai’r arian sy’n cael ei wastraffu fel hyn yn ddigon i drechu problemau newyn ac angen drwy’r byd.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment