Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1984.
Themâu: sicrhau dŵr glan i bawb, 12,000,000 o blant dan 5 oed yn marw bob blwyddyn, y mwyafrif oherwydd prinder dŵr glan, gan Aelwyd Orllwyn Teifi, Llandysul, hanes merch o Gymru’n cymryd dŵr glan yn ganiataol a merch o Swdan sy’n codi’n fore i nôl dŵr wedi ei lygru o’r pwll llonydd, cais am gefnogaeth i ddarparu ffynhonnau i gymunedau plant yn y ‘Trydydd Byd’. Dyfyniad: "Dŵr yw hanfod pennaf bywyd. Ni allwn fyw hebddo a gwyddom fod dŵr wedi ei lygru yn berygl i fywyd. Mae miliynau o blant yn dihoeni a marw oherwydd y diffyg hwn. Wrth droi’r tapiau yn ein tai cyffyrddus, boed i ni gofio am y gwledydd hynny lle nad oes dwr glan….Gadewch i ni weithredu ein Hewyllys Da ni, i sicrhau dŵr glan a bywyd iddynt hwy.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw