Neges heddwch ac ewyllys da plant Cymru, 1982.
Disgrifiadau
Poster Neges Heddwch ac Ewyllys Da 1982.
Themâu: Heddwch, gan Aelwyd Aberhonddu, peryglon real ac anghyfiawnderau, consyrn am y penderfyniadau a wneir ar ein rhan, ieuenctid y byd i gydweithio drwy fudiadau heddwch, chwarae’n troi chwerw ar iard ysgol cyn cymodi, chwarae gyda gynnau a thanciau, oedolion yn codi muriau heb feddwl adnabod ei gilydd, son am elyn yn lle cyfaill, bwledi yn lle bwyd, dinistr yn lle daioni, cystadlu ym myd arfau niwcliar, diwedd y ras hon fydd diwedd dynoliaeth, miliynau yn marw o newyn a syched, offered arfau, angen cyd-chwarae a chydfyw. Dyfyniad: "Mae’r ieuenctid yn argyhoeddedig, serch hynny, fod y dyfodol yn ein dwylo ni dim ond i ni ddatgan consyrn am y penderfyniadau a wneir ar ein rhan. Gelwir ar Ieuenctid y Byd, y De a’r Gogledd, i gydweithio gyda’i gilydd drwy fudiadau heddwch…Ond mae rhai oedolion yn codi muriau, heb feddwl am adnabod ei gilydd, yn son am elyn yn lle cyfaill, bwledi yn lle bwyd, a dinistr yn lle daioni. Ac mae pobl fawr y gwledydd yn cystadlu ym myd arfau niwcliar: adeiladu blociau fel y bydden ninnau. Ac oni fydd y ras am yr ucha’n troi’n chwalfa yn y diwedd? Ond diwedd y ras hon fydd diwedd dynoliaeth.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment