Disgrifiad

Dyma lyfr o atgofion Alf Gordon, glöwr yn ne Cymru.

Magwyd Alf yn Llangatwg, gweithiodd ym mhwll glo Senghennydd yn 16 mlwydd oed a goroesodd trychineb 1913 lle lladdwyd 439 o lowyr. Yn 1914, listiodd Alf yn y Prince Albert’s Somerset Light Infantry lle cafodd ei wneud yn gorporal ac ymladd ar y ffrynt yn Fflandrys, gan hefyd gymryd rhan ym Mrwydr y Somme.

Yn dilyn y Cadoediad yn 1918, dychwelodd Alf i weithio ym mhwll glo Abertridwr, gan weithio ar y talcen glo cyn dod yn Arolygwr a Chapten Gwaith Achub ac yn y pen draw Swyddog Diogelwch Pyllau Glo ym mhwll glo Windsor. Ymhen hir a’r hwyr enillodd Alf ei Dystysgrif Rheoli Pyllau Glo.

Digideiddiwyd dyddiaduron Alf Gordon ar gyfer Casgliad y Werin Cymru gan wirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw