Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Fideo 'time-lapse' o'r tîm arddangosfeydd yn adeiladu'r gosodwaith canolog.Cynrychiola pob darn unigol o lo yn y gosodwaith hwn un o'r 144 bywyd a gollwyd yn nhrychineb Aberfan. Cynhaliwyd yr arddangosfa hon yn Anecs Oriel Gregynog yn Llyfrgell Gendlathol Cymru, 17/09/16 - 14/01/17."Ar fore dydd Gwener, 21 Hydref 1966, tarwyd pentref glofaol bychan yn ne Cymru gan drychineb. Gorchuddiwyd y cwm o amgylch Aberfan gan domenni uchel o wastraff o bwll glo Merthyr Vale gerllaw, ac, ychydig wedi 9 o'r gloch y bore, dechreuodd 'Tip 7' symud. Ymhen munudau rhuthrodd tirlithriad anferth o garreg a llwch glo i lawr y mynydd gan droi'n hylif o ganlyniad i'r dŵr oddi tano, a dinistrio popeth yn ei lwybr. Chwalwyd dau fwthyn fferm a nifer o dai gan 1,000 tunnell o rwbel glo cyn rhwygo drwy ochr Ysgol Gynradd Pantglas. Lladdwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant, gan ennyn ymateb emosiynol dwfn dros Gymru gyfan a thrwy'r gymuned ryngwladol. Rhuthrodd miloedd i helpu gyda'r gwaith achub, wrth i gydymdeimlad a chymorth ariannol gyrraedd o bell ac agos.Dros gyfnod o hanner can mlynedd ers yr Hydref du hwnnw, mae myrddiynau o gerddi, ffotograffau, cyfansoddiadau cerddorol a ffilmiau wedi coffáu'r drychineb a'r colledion. Heddiw edrychwn ar y drychineb, yr ymateb i'r digwyddiad erchyll, a choffáu drachefn."

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw