Crasu bara ceirch ar dân agored
Disgrifiadau
Mrs Catrin Evans, Rhyd-y-bod, Cynllwyd yn crasu bara ceirch ar dân agored. Mae'r offer a'r adnoddau i gyd yn draddodiadol. Roedd gan Mrs Evans hir brofiad o wneud bara ceirch, felly mae'r grefft yn cael ei harddangos ar ei gorau. Yn y ffilm gwelir y lle tân, sef grât a dau bentwr bob ochr, a'r radell yn gorffwys ar y pentan. Mae Mrs Evans yn taenu blawd ceirch ar y radell i brofi'r gwres. Os yw'r blawd yn cochi ychydig, yna mae'n brawf bod y radell yn y gwres priodol i grasu'r torthau. Gwelir Mrs Evans yn glanhau'r radell â'r adain bobi (adain gŵydd). Mae'n cydio mewn torth geirch rhwng cledr y ddwy law a'i gollwng ar y radell. Gadewir y dorth i grasu am ychydig funudau cyn ei throi â'r grafell. Wedi crasu'r ail ochr, mae Mrs Evans yn rhoi'r dorth ar ei hochr yn y rhes flaen ar y car bara ceirch. Y dywediad ar lafar gwlad oedd rhoi'r torthau 'ar eu cyllyll', sef ar eu hochr ar y car.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment