Dowset 2.
Disgrifiadau
Cynhwysion
crwst tenau
chwe llond llwy fwrdd o flawd plaen
hanner llond llwy de o bowdr codi
dau lond llwy de o siwgr
ychydig o halen
un wy wedi’i guro’n dda
jam
Dull
Gorchuddio tu mewn dysgl bwdin â chrwst tenau a rhoi haen o jam arno.
Cymysgu’r defnyddiau sych â’r wy a’u harllwys ar y jam.
Crasu’r pwdin mewn ffwrn weddol boeth nes y bo’n felyngoch ei liw.
Byddai gwragedd ffermydd Bro Gŵyr yn crasu llond tun mawr o’r pwdin hwn yn y ffwrn wal ar ddiwrnod crasu bara, a’i gadw ar gyfer cinio’r teulu ddydd Sadwrn. Byddent yn brysur yn glanhau’r tŷ fore Sadwrn ac ni fyddai amser ganddynt i baratoi cinio o gig a thatws y diwrnod hwnnw.
Bro Gŵyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment