Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Cynhwysion
afalau – yn ôl rhif y teulu
crwst brau
Dull
Gwneud crwst brau ymlaen llaw drwy rwbio ychydig o lard i mewn i flawd plaen a’i wlychu â dŵr.
Gyrru’r crwst yn weddol denau.
Golchi’r afalau’n lân a chadw’s croen amdanynt.
Torri’r crwst yn ddarnau (yn ôl maint yr afalau), lapio un darn yn dynn am bob afal i wneud ail groen iddo.
Berwi llond sosban o ddŵr, gollwng y twmplins i’r dŵr berw hwn a’u coginio nes gwelir craciau bach yn ymddangos ar wyneb y crwst. Y mae hyn yn brawf bod yr afal wedi digoni.
Agor y twmplins, rhoi trwch o siwgr coch ar yr afal a’u bwyta’n gynnes, gydag ychydig o laeth oer arnynt.
Pen-prysg, Morgannwg.
Yr oedd hi’n arferiad cyffredin i ferwi twmplins gyda’r llysiau yn y cawl mewn rhai ardaloedd. Byddid yn defnyddio’r saim oddi ar wyneb y cawl i wlychu’r crwst yn lle rhoi lard ynddo. Rhaid oedd gofalu bod y cawl yn berwi pan roid hwy ynddo gan fod cawl (neu ddŵr) berw yn ‘clymu’r’ crwst a’i rwystro rhag chwalu.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (1)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw