Twmplen Gwsberis
Twmplen Gwsberis
Disgrifiadau
Cynhwysion
crwst brau
gwsberis
Dull
Iro basn pridd a gorchuddio’i ochrau a’i waelod â chrwst brau.
Llenwi’r basn â gwsberis a rhoi haen o grwst ar eu hwyneb.
Rhoi darn o liain dros wyneb y basn a’i glymu’n dynn â llinyn.
Berwi’r pwdin mewn hanner llond sosban o ddŵr am ryw awr neu ragor.
Taenu siwgr ar y pwdin, a’i fwyta’n gynnes gan arllwys ychydig o laeth oer arno, yn ôl y dewis.
Groes-goch, Penfro.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment