Skip to main content

Twmplen

Disgrifiadau

Cynhwysion

pwys a hanner o flawd plaen
hanner pwys o lard neu doddion (neu siwet)
hanner llond llwy de o halen
hanner llond llwy de o soda pobi
hanner peint o laeth enwyn
jam neu unrhyw ffrwyth

Dull

Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen.
Toddi’r soda pobi yn y llaeth enwyn a’i dywallt yn raddol i’r blawd i wneud toes.
Gyrru’r toes yn ddarn hirgul, taenu unrhyw fath ar jam neu ffrwythau (riwbob, ffebrins, etc.) arno a’i rolio’n dynn ar ei gilydd (cf. rolipoli).
Rhoi’r dwmplen mewn darn mawr o liain gwlyb, clymu’r ddau ben â llinyn, ac yna ei rhoi mewn dŵr berw.
Berwi’r dwmplen am awr a hanner neu ddwy awr.
Taenu siwgr ar dafell ohoni a thywallt llefrith arni, yn ôl y dewis.

Pennant, Maldwyn.

‘Roedd gwneud twmplen i ginio yn beth cyffredin iawn ar ffermydd mewn rhannau o sir Drefaldwyn. Yno, ar un adeg, byddent yn bwyta darn mawr ohoni o flaen y tatws a’r cig, ond disodlwyd yr arfer hynny gan y dull cyffredin o’i bwyta fel pwdin ar ôl y cinio.

Pan fyddai’r ffrwythau yn brin yr oedd hi’n arfer i ferwi ‘twmplen ddall’, sef twmplen blaen heb ddim ffrwythau ynddi. Byddid yn taenu jam neu driog arni wrth ei bwyta.

‘Pwdin berwi’ neu ‘pwdin siwet’ y gelwid hwn mewn rhannau o sir Gaernarfon, e.e. Mynytho, Llŷn.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1379
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment