Skip to main content

Pwdin Berwi

Disgrifiadau

Cynhwysion

blawd plaen
halen
siwgr
cyrens
ychydig o siwet (ar ôl lladd llwdn)
soda pobi
dŵr berw
llaeth enwyn

(Ni fyddid yn mesur y defnyddiau uchod, ond yn mynd yn ôl ‘synnwyr y fawd’.)

Dull

Cymysgu’r defnyddiau sych mewn dysgl.
Toddi’r soda pobi mewn dŵr berw ac ychwanegu llaeth enwyn ato ar ôl iddo oeri.
Ei dywallt yn raddol i ganol y defnyddiau sych a’u cymysgu â llwy bren.
Rhoi’r cymysgedd mewn cwd lliain, clymu hwnnw’n dynn â llinyn a’i ferwi mewn dŵr am awr neu ragor.

Arferid gwneud saws gwyn i’w dywallt ar dafelli o’r pwdin hwn.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/9/2016
Gwelediadau:
1136
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment